Ein Partneriaid
Mae ein partneriaethau yn rhan allweddol o’n hethos, ein strategaeth a’n gweithredoedd. Mae’n well gennym gydweithredu yn hytrach na chystadlu. Dyma pam y cafodd WRAP ei sefydlu yn gydweithrediaeth a’n bod yn arfer egwyddorion cydweithredol yn ogystal â r
Coastal Housing
Partneriaid
Serena Jones yw Cyfarwyddwr Cartrefi, Cymunedau a Gwasanaethau Coastal Housing Group. Mae hi’n arwain timau tai cymunedol a gwasanaethau cynnal a chadw er mwyn cyflawni’r dibenion sefydliadol – cynnal tenantiaethau, cymunedau a’r economi leol. Mae hi’n frwd iawn o blaid defnyddio dulliau ar sail cryfderau, gan weithio’n adferol a dileu rhwystrau i wneud y pethau sydd eu heisiau yn y cymunedau y mae hi’n eu gwasanaethu.
Mae Coastal Housing yn fusnes cymdeithasol sy’n darparu 5,500 o dai fforddiadwy o safon ar draws De Cymru ac mae Partneriaeth Gweithredu Adferol Cymru yn gweithio gyda nhw oddi ar 2016. Mae agwedd meddwl adferol a grymusol gan Coastal a gofynnwyd i ni weithio gyda nhw i gyflwyno gweithredu adferol ar draws eu sefydliad i gefnogi gwaith adeiladu a chynnal perthnasoedd gyda’r dinasyddion y maen nhw’n eu gwasanaethu yn ogystal ag yn fewnol o fewn timau.
Mae Coastal wedi mwynhau’r hyfforddiant uchel ei safon gan wneud y sylwad, “Mae’r hyfforddiant yn ardderchog gan iddo ddangos i ni ffyrdd syml, ymarferol y gallwn weithredu’r dull adferol yn ein bywyd gwaith o ddydd i ddydd, yn arweinwyr ac yn gyd-weithwyr“. Ychwanegodd Serena, “Mae gweithredu adferol yn cyd-fynd â’r dulliau a’r technegau eraill rydym yn eu defnyddio i gydweithio, arloesi a meithrin ymddiriedaeth uchel / agwedd meddwl perfformiad uchel. Rydym yn ddiolchgar iawn i WRAP am eu cyfraniad i’r ‘Coastal Offer’ (cyfraniad sy’n parhau).”
Darllen mwy >
Cadwyn Housing Association
Partneriaid, Cymdeithas Tai Cadwyn
Mae Cymdeithas Tai Cadwyn wedi bod yn darparu tai fforddiadwy i bobl yng Nghaerdydd am y 50 mlynedd ddiwethaf. Rydym yn sefydliad amrywiol sy’n amrywio o dai cyffredinol/tai â chymorth hyd at dai proffesiynol a chymdeithasol ar osod, a gwerthwyr tai. Rydym yn cyflenwi cartrefi i ryw 2,000 o deuluoedd. Ein nod yw darparu mwy na’r tŷ yn unig drwy adeiladu cymunedau cryf a gwydn.
Mae pob aelod o’r staff o wasanaethau tenant-ganolog Cadwyn drwy weithio mewn partneriaeth â W.R.A.P. (Partneriaeth Gweithredu Adferol Cymru) am fwy na blwyddyn, wedi’u hyfforddi yn y dull adferol. Mae Vince, hyfforddwr ac ymarferwr adferol W.R.A.P, wedi trosglwyddo’r sgiliau a’r ymagwedd meddwl a fydd yn dod â newid sylweddol o fewn ein gwasanaethau. Mae’r berthynas waith agos yma wedi gweld y ddau sefydliad yn ymuno i gynnig am arian i uwchsgilio ein tenantiaid yn y dull hwn.
Meddai Phil Richardson, Pennaeth Tai â Chymorth, “Wedi derbyn hyfforddiant W.R.A.P, roedd Gweithredu Adferol yn teimlo’n beth cyffyrddus a naturiol i Cadwyn ei fabwysiadu. Fe wnaeth adeiladu ar ein hagwedd “Gwneud gyda nid Gwneud i” gan roi mynegiant a fframwaith clir i ni gael symud ymlaen. Mae wedi helpu i wella’r cymorth rydym yn ei roi, gan fod o werth enfawr i’r teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw. Hefyd mae wedi helpu i ganolbwyntio ar ein staff ni ein hunain a pha mor bwysig yw eu hanghenion a’u lles hwythau i lwyddiant Cadwyn”.
Darllen mwy >
Wales Co-operative Centre
Canolfan Cydweithredol Cymru
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn sefydliad cydweithredol di-elw sy’n cefnogi pobl yng Nghymru i wella eu bywyd a’u bywoliaeth.
Oddi ar ei sefydlu yn 1982, mae’r Ganolfan yng nghanol economi gymdeithasol fyrlymus Cymru, yn dod â phobl at ei gilydd i gael magu mwy o hyder, mwy o gydweithredu, mwy o gymhwysedd a mwy o uchelgais yn ein cymunedau. Mae’n gweithio i sicrhau economi decach. Mae’n helpu i greu ac i gadw golud o fewn ein cymunedau wrth i gydweithfeydd a busnesau cymdeithasol dyfu. Mae’n rhoi’r sgiliau i bobl gael bod â mwy o reolaeth dros eu bywydau nhw eu hunain ac i gryfhau eu cymunedau.
Mae popeth a wna wedi’i siapio gan ymrwymiad y Ganolfan ei hun i werthoedd cydweithredol ynghyd â’i chydweithrediad agos â chyllidwyr a phartneriaid a fydd yn cyflawni, i gael sicrhau eu nodau cyffredin.
Darllen mwy >
Do-It >
Partneriaid, Do-it
Do-IT
Hyrwyddo'r person niwrodiverse.
Helpu unigolion a sefydliadau i ffynnu.
Mae Do-IT yn cymryd ‘Dull Person Cyfan’, gan helpu pobl â chyflyrau niwroddrywiol i bod y gorau y gallant fod. Wedi ein cymeradwyo gan ymchwil glinigol ac academaidd 25 mlynedd ’, mae gennym ymddiriedaeth mewn Addysg, Cyflogaeth a Chyfiawnder i gefnogi unigolion a sefydliadau trwy asesu a hyfforddi wedi’u teilwra ar-lein.